R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
1. Leighton Andrews (Rhondda): Faint o swyddi sydd wedi eu creu gan raglenni effeithlonrwydd ynni Llywodraeth Cymru fel Arbed? OAQ(4)0126(NRF)
2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i annog prosiectau ynni adnewyddadwy newydd? OAQ(4)0122(NRF)
3. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Gynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0130(NRF)
4. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Fframwaith Strategol ar gyfer Dileu TB Gwartheg yng Nghymru o ran bywyd gwyllt? OAQ(4)0124(NRF)
5. Eluned Parrott (Canol De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig? OAQ(4)0129(NRF)
6. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa wersi sydd wedi eu dysgu o'r stormydd difrifol diweddar mewn perthynas â chynnal cymunedau arfordirol? OAQ(4)0132(NRF)W
7. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraniad Cymru i fynd i’r afael â'r newid yn yr hinsawdd? OAQ(4)0131(NRF)
8. Sandy Mewies (Delyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal y dirywiad mewn poblogaethau gwenyn a pheillwyr eraill yng Nghymru? OAQ(4)0125(NRF)
9. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel allyriadau CO2 yng Nghymru? OAQ(4)0128(NRF)
10. Elin Jones (Ceredigion): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith stormydd mis Ionawr a mis Chwefror eleni ar bysgota? OAQ(4)0134(NRF)W
11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â phlanhigion anfrodorol? OAQ(4)0119(NRF)
12. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymagwedd Llywodraeth Cymru at wella'r amgylchedd yng Nghymru? OAQ(4)0127(NRF)
13. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymagwedd Llywodraeth Cymru at reoli chwyn niweidiol a phlanhigion ymledol yng Nghymru? OAQ(4)0120(NRF)
14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i atal llifogydd? OAQ(4)0121(NRF)
15. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth bwyd a diod Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0133(NRF)W
Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio
1. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i landlordiaid cymdeithasol ar gyfer ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol? OAQ(4)0364(HR)
2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gynigion ar gyfer dyfodol system gynllunio Cymru? OAQ(4)0360(HR)
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adfywio canol trefi yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0359(HR)
4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchodaeth gynllunio ar gyfer mannau hamdden yng Nghymru? OAQ(4)0361(HR)
5. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ynglŷn â chofrestru landlordiaid preifat? OAQ(4)0374(HR)W
6. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am daliadau escrow a wnaed rhwng awdurdodau cynllunio lleol a gweithredwyr glo brig? OAQ(4)0362(HR)
7. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr addasiadau i gartrefi a gynhaliwyd yn Islwyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? OAQ(4)0369(HR)
8. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i gynorthwyo gwella llywodraethu yn y sector cymdeithasau tai? OAQ(4)0373(HR)
9. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa bwerau sydd gan y Llywodraeth i gyfyngu ar nifer y tai amlfeddiannaeth mewn cymuned? OAQ(4)0370(HR)
10. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud i adfywio'r stryd fawr yng Nghymru? OAQ(4)0363(HR)
11. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran sefydlu comisiwn i ystyried ardaloedd o dai amlfeddiannaeth dwysedd uchel? OAQ(4)0368(HR)
12. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y Bil Cynllunio? OAQ(4)0366(HR)
13. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Sut mae’r Gweinidog yn bwriadu defnyddio ei gyfrifoldeb am bolisi cynllunio i ddatblygu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0375(HR)
14. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y nifer arfaethedig o gartrefi newydd a fwriedir ar gyfer Gogledd Cymru? OAQ(4)0371(HR)W
15. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog amlinellu faint o eiddo sydd wedi cael eu hadeiladu ar orlifdiroedd cofrestredig yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf? OAQ(4)0367(HR)